Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2021
Mae’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a’r thema yw ‘natur’! Mae Melo wedi gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Cyfoeth Naturiol Cymru i roi cynghorion da ynglŷn â gwella eich lles meddyliol drwy gysylltu â natur. Mae gennym ychydig o awgrymiadau hwylus ar gyfer pob oed. Rydym yn gobeithio y bydd y syniadau hyn yn eich helpu i gysylltu â natur a gwella eich lles.
Dilynwch ni @melo_wales drwy gydol yr wythnos wrth i ni rannu gwybodaeth ynglŷn â sut y gall natur wella eich lles meddyliol.
Natur a’n hiechyd meddwl
Mae’r rheini ohonom sy’n mwynhau natur yn gwybod yn iawn am yr effaith gadarnhaol y mae’n ei gael ar ein lles. Mae gwyddoniaeth wedi dangos bod ein hiechyd a’n hapusrwydd yn gwella pan fyddwn yn treulio amser ym myd natur. Mae’r manteision yn rhai corfforol a meddyliol. Maent yn amrywio o well ffitrwydd a phwysedd gwaed is i lai o bryder ac iselder.
Gall natur hefyd roi hwb i’n hysbryd, ein hegnïo a’n cyffroi. Ydych chi wedi sylwi sut y bydd plant bach yn wên o glust i glust pan fyddant yn canfod blodyn neu drychfilyn, pan fyddant yn neidio mewn pwll o ddŵr neu’n chwythu hadau oddi ar ddant y llew? Maent yn gofyn cwestiynau am y byd o’u cwmpas. “Sut sŵn mae robin goch yn ei wneud?” “Pa mor hen yw’r goeden?” “Lle mae draenogod yn cysgu?”
Mae’r chwilfrydedd a’r cyffro hwn am fyd natur yn gynhenid ynnom, ond fel oedolion gallwn golli’r teimlad hwnnw o ryfeddod a llawenydd.
Natur a Phum Ffordd at Les
Mae bod yn chwilfrydig am y byd a herio ein hunain i ddysgu pethau newydd yn bwysig er mwyn cadw’r ymennydd yn weithgar a gwella ein lles meddyliol. Mae ‘Dal ati i ddysgu’ yn un o’r Pum Ffordd at Les. Mae natur yn rhoi llawer o gyfleoedd i ni ymarfer y Pum Ffordd, gan gynnwys Bod yn fywiog a Cysylltu. Mae taith ar droed syml mewn gofod gwyrdd gyda theulu a ffrindiau yn ffordd wych i wneud hyn.
Os byddwn yn arafu i sylwi ar y pethau bach sy’n ysgogi ein chwilfrydedd rydym hefyd yn ymarfer un arall o’r Pum Ffordd at Les; ‘Bod yn sylwgar’. Gall bod yn barod i archwilio golygfeydd, synau, arogleuon, teimlad a hyd yn oed blas natur fod yn wledd i’n synhwyrau. Drwy danio ein synhwyrau rydym hefyd yn diffodd y sŵn yn ein pen a gall hynny ein helpu i gael teimlad o heddwch.
Yr olaf, ond nid y lleiaf pwysig o’r Pum Ffordd yw Rhoi. Mae’r pleser sy’n gysylltiedig â helpu eraill, gan gynnwys bywyd gwyllt, yn cyfoethogi ein teimlad o les. Gallwn roi’n ôl i natur mewn nifer o ffyrdd, yn amrywio o fwydo’r adar i wella cynefinoedd. Mae’n rhaid bod mwynhau natur, tra’n gofalu amdano, yn un o’r ffyrdd gorau i wella ein lles ein hunain.
Sut bynnag yr ydych yn penderfynu cysylltu â natur, caiff eich ymdrechion eu gwobrwyo gyda gwell teimlad o les. Nid oes yn rhaid i chi gymryd ein gair ni. Rhowch gynnig arni eich hun.
I gael rhagor o wybodaeth dilynwch y dolenni ychwanegol isod i ddeunydd sy’n ymwneud â natur a lles
Sut mae natur yn llesol i’n hiechyd a’n hapusrwydd gann y BBC Earth
Yn reddfol mae pawb ohonom yn meddwl mae’n rhaid bod natur yn dda i’n hiechyd a’n hapusrwydd. Mae dadansoddiad diweddar o her natur ar raddfa fawr yn dangos yn wyddonol pa mor bwysig yw teimlo’n rhan o natur ar gyfer ein hiechyd corfforol a meddyliol.
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae adnoddau naturiol yn chwarae rhan hollbwysig yn ein lles corfforol a meddyliol pob dydd – gan ddarparu’r lleoedd a’r gofodau i ni fwynhau cysylltiau iach â natur a phobl eraill. Mae ymchwil wedi dangos bod pobl wedi troi at natur er mwyn helpu i ymdopi â’r pandemig dros y flwyddyn ddiwethaf. Gallwch ddysgu mwy am hyn ac am ffyrdd i gysylltu â natur ym mlog Cyfoeth Naturiol Cymru ar 10 Mai.
Dilynwch @natreswales ar Facebook a twitter drwy gydol yr wythnos wrth iddynt rannu storïau pobl ynglŷn â sut y mae eu cysylltiad â natur wedi’u helpu hwy, a chynnig ffyrdd gwell i roi hwb i’ch lles eich hun.
30 Diwrnod Gwyllt Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn amlygu pwysigrwydd cysylltu â natur. Gall cymryd rhan yn 30 Diwrnod Gwyllt Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent eich helpu i fynd yn agosach ar fywyd gwyllt y mis Mehefin hwn, a theimlo’n well oherwydd hynny!
Beth yw #30DiwrnodGwyllt? Wel, mae’r Ymddiriedolaeth yn gofyn i bawb wneud un peth gwyllt bob dydd ym mis Mehefin – er budd y blaned ac er eich lles eich hun.
Cysylltwch â natur er budd eich iechyd meddwl
Cysylltwch â natur er budd eich iechyd meddwl
Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr wythnos er mwyn dysgu mwy am sut y gall cysylltiad â natur roi hwb i’ch lles meddyliol.
Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r hashnodau #MeloMHA #CysylltuaNatur #WythnosYmwybyddiaethIechydMeddwl #CerddedMisMai a thagiwch ni yn eich postiadau ynglŷn â sut rydych yn cysylltu â natur yr wythnos hon!
Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn dilyn ein partneriaid @natreswales a @gwentwildlifetrust ar Facebook, Instagram a Twitter!
‘Mae rhywbeth i ryfeddu ato ym myd Natur’
– Aristotle
Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol
Er mwn elwa gan ein cynghorion ar gyfer amsugno rhyfeddod natur, ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a dysgu mwy!