Skip to main content

Ydych chi’n ystyried gwirfoddoli?

Jun 3, 2021

Pam fod gwirfoddoli mor bwysig?

Mae gwirfoddoli wedi bod yn digwydd ers y ddeuddegfed ganrif, pan gofnodwyd bod dros 500 o ysbytai yn y DU yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr! Ond daeth gwirfoddoli i amlygrwydd gwirioneddol yn ystod y 1900au pan oedd pobl eisiau gwneud newidiadau go iawn yn eu cymunedau drwy fynd i’r afael ag effeithiau tlodi a lleihau amddifadedd.

Fy new i yw Karen ac rydw i wedi gweithio yn y Trydydd Sector am dros 30 o flynyddoedd, fel gweithiwr am dâl a gwirfoddolwr! Rydw i wedi gwirfoddoli gyda llawer o sefydliadau gan gynnwys Cybiau’r Sgowtiaid, Cadwch Gymru’n Daclus, Gwarchod Cymdogaeth, CRhA mewn ysgol a llywodraethwr ysgol, ac yn fwy diweddar gwirfoddolais gyda grŵp cefnogaeth cymheiriaid iechyd meddwl lleol.

Pam gwirfoddoli?

Mae llawer o fanteision i wirfoddoli o ran iechyd meddwl a chorfforol.

Mae’n helpu i wrthbwyso effeithiau straen, dicter a phryder. Gall yr elfen cysylltiad cymdeithasol o helpu a bod gydag eraill gael effaith gadarnhaol ar eich lles corfforol a meddyliol cyffredinol. Gellir ysgafnhau straen drwy dreulio ychydig o amser ystyrlon gyda pherson arall sydd â chysylltiad tebyg i chithau. Gwelwyd hefyd fod gweithio gydag anifeiliaid anwes ac anifeiliaid eraill yn gwella hwyliau ac yn lleihau pryder. Mae gwirfoddoli yn eich cadw mewn cysylltiad rheolaidd ag eraill ac yn eich helpu i ddatblygu system gadarn o gefnogaeth, sydd yn ei thro yn eich galluogi i ddod yn fwy gwydn o ran ymdopi â phryder ac iechyd meddwl gwael. Drwy fesur hormonau a gweithgarwch yr ymennydd, mae ymchwilwyr wedi canfod fod bod o gymorth i eraill yn rhoi pleser mawr. Mae’n reddfol i fodau dynol roi i eraill. Po fwyaf y byddwn yn ei roi, yr hapusaf y byddwn ni’n teimlo. [Darllen: Meithrin Hapusrwydd – Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael.]

Pan fyddwch yn gwneud daioni i eraill a’r gymuned, sy’n rhoi teimlad naturiol o gyflawniad, rydych yn teimlo’n fwy hyderus. Fel gwirfoddolwr, gall y gwaith rydych yn ei wneud hefyd roi teimlad o falchder, pwrpas a hunaniaeth i chi. A’r gorau rydych yn teimlo amdanoch eich hun, y mwyaf tebygol ydych chi i edrych yn gadarnhaol ar eich bywyd a’ch nodau ar gyfer y dyfodol.

Gall pobl sy’n wynebu trawsnewidiadau mewn bywyd megis profedigaeth, colli gwaith, ymddeoliad, cyflyrau iechyd hirdymor ac unigrwydd, ddod o hyd i ystyr a chyfeiriad newydd yn eu bywyd drwy helpu pobl eraill. Beth bynnag fo’ch oedran neu sefyllfa eich bywyd, gall gwirfoddoli helpu i dynnu eich meddwl oddi ar eich pryderon eich hun, cadw eich ymennydd wedi’i ysgogi, ac ychwanegu mwy o egni i’ch bywyd.

Gall gwirfoddoli fod yn rhan o’r 5 Ffordd at Les.

Mae gwirfoddoli yn cyd-fynd â’r 5 Ffordd at Les a thrwy gynnwys y rhain yn ein bywydau gallwn wella ein lles a’n gwytnwch. Mae gwirfoddoli yn ein helpu i gysylltu â phobl eraill, bod yn fwy corfforol egnïol a thalu sylw i’r hyn sydd o’n cwmpas, ein lles a myfyrio ar yr hyn sy’n bwysig i ni, mae’n ein helpu i barhau i ddysgu sgiliau newydd a gwella ein sgiliau presennol, yn ogystal â rhoi i eraill gan gynnwys ein cymuned.

Cysylltu: Gallwch fod yn rhan o’ch cymuned leol.

Mae gwirfoddoli’n caniatáu i chi gysylltu â’ch cymuned a’i gwneud yn lle gwell. Gall hyd yn oed helpu gyda’r tasgau lleiaf wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, anifeiliaid a sefydliadau sydd mewn angen. Gall dim ond gwneud cwpanaid o de, trefnu cadeiriau ar gyfer sesiwn neu ddosbarthu taflenni wneud gwahaniaeth mawr i’r grŵp cymunedol a’ch teimlad chi o ddiben a lles.

Mae gwirfoddoli yn ein helpu i wneud ffrindiau a chysylltiadau newydd drwy rannu gweithgaredd. Mae’n ffordd wych i gyfarfod â phobl newydd ac mae’n ehangu ein rhwydwaith cefnogi, sy’n ein helpu i feithrin ein gwytnwch. Mae’n rhoi cyfle i ni wneud rhywbeth newydd neu wahanol a llawn pwrpas gyda ffrindiau newydd sydd â diddordebau tebyg tra’n cael hwyl a theimlo wedi’n bodloni.

Aros yn Egnïol: Mae gwirfoddoli yn eich helpu i aros yn gorfforol iach.

Mae astudiaethau wedi canfod bod gan y rheini sy’n gwirfoddoli gyfradd marwolaethau is na’r rheini sydd ddim yn gwneud hynny. Pan fyddwch yn gwirfoddoli rydych yn symud mwy ac felly’n llai tebygol o ddatblygu pwysedd gwaed uchel, bydd gennych gyhyrau craidd cryfach a gwell sgiliau meddwl.

Dysgu: Gall gwirfoddoli eich helpu i ddatblygu eich gyrfa.

Gall gwirfoddoli ddatblygu eich gyrfa neu hyd yn oed newid llwybr eich gyrfa. Hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu newid gyrfa, mae gwirfoddoli yn rhoi’r cyfle i chi ymarfer neu ddysgu sgiliau pwysig a ddefnyddir yn y gweithle, megis gwaith tîm, gosod nodau, cyfathrebu, datrys problemau, cynllunio prosiect, rheoli tasgau, a threfnu. Mae’n rhoi’r cyfle i chi roi cynnig ar yrfa newydd heb wneud ymrwymiad hirdymor. Mae hefyd yn ffordd wych i gael profiad mewn maes newydd. Mewn rhai rolau, gallwch wirfoddoli’n uniongyrchol mewn sefydliad sy’n gwneud y math o waith y mae gennych ddiddordeb ynddo. Er enghraifft, os oes gennych ddiddordeb mewn nyrsio, gallech wirfoddoli mewn ysbyty neu gartref nyrsio.

Beth am roi cynnig ar wirfoddoli yn eich ardal leol?

Felly, does dim rheswm i beidio mwynhau gwirfoddoli, rhowch gynnig arno, mae’n ein gwneud ni a’n cymunedau yn fwy cadarnhaol, iach a gwydn. Gallwch gofrestru ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli gyda
Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, Cynghrair Gwirfoddol Torfaen, Cyfle Cymru, Volunteer Matters, Gwirfoddoli Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Gweler Dewis Cymru i ddod o hyd i gyfleoedd lleol i wirfoddoli!

Dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yn eich ardal chi

Er mwyn cael cynghorion a chanfod cyfleoedd i helpu i wella eich lles meddyliol, dilynwch Melo ar ein platfformau cymdeithasol isod.

Dilynwch @DewisCymru ar Twitter i gael newyddion a diweddariadau am lesiant!

‘We make a living by what we get but we make a life by what we give.’

– Winston Churchill

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol

I gael cynghorion ac adnoddau am lesiant, ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod rhagor!