PHP a Chymorth gan feddygfa eich meddyg teulu
Os ydych yn teimlo bod angen cefnogaeth barhaus arnoch i wella eich iechyd meddwl, yna efallai y bydd angen cymorth proffesiynol arnoch gan y GIG. Mae hwn am ddim a byddwch yn gallu cael gafael arno ym meddygfa eich meddyg teulu. Holwch a oes Ymarferydd Iechyd Seicolegol yn eich meddygfa. Os nad oes, yna gall eich meddyg teulu ddarparu cymorth.
Poster PHP
Gweld pa wasanaethau iechyd meddwl a lles sydd ar gael gan eich meddyg teulu.
Lawrlwytho ↓
Beth yw Ymarferydd Iechyd Seicolegol?
Ymarferwyr iechyd meddwl profiadol yw Ymarferwyr Iechyd Seicolegol (PHP). Maent yn bwynt cyswllt cyntaf da i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol. Maent yn deall ystod eang o gyflyrau iechyd meddwl a’r pethau a all helpu. Cawsant eu cyflwyno i lawer o feddygfeydd meddygon teulu BIP AB yn 2021. Mae rhai PHP yn cynnig apwyntiadau yn y feddygfa ac mae rhai yn gweithio o bell (drwy gyfrifiadur neu dros y ffôn).
Mae apwyntiadau PHP yn para hyd at 45 munud a’u nod yw helpu pobl i wneud synnwyr o’u pryderon a phrofiadau anodd neu ddryslyd. Bydd PHP yn rhoi gwybodaeth i chi am y broblem ac yn dangos i chi sut i reoli’r profiadau hyn yn well. Gallwch ddysgu ar eich pen eich hun, neu gyda chefnogaeth gan wasanaeth arall.
Nid yw PHP wedi’u hyfforddi’n feddygol, ac felly ni allant gynnig unrhyw gyngor am feddyginiaeth. Ni allant chwaith gynnig diagnosis a chwnsela. Byddant yn eich helpu i feddwl am yr hyn sydd ei angen arnoch, yr hyn sydd angen i chi ei wneud a’ch helpu i lunio cynllun. Os byddwch yn rhoi cynnig ar rywbeth ac nad yw’n gweithio, gallwch fynd i siarad â’r PHP eto a gwneud cynllun newydd.
Archwiliwch ragor o ffyrdd o ofalu am eich lles meddyliol
Llinellau Cymorth a Chefnogaeth
Gwasanaethau cymorth y gallwch eu cyrraedd dros y ffôn, neges destun, e-bost neu wefannau i helpu i'ch cadw'n ddiogel.
Dod o hyd i linellau cymorth →
Cyrsiau Lles Meddyliol
Cyrsiau manwl i'ch helpu i ddysgu sgiliau i reoli a gwella eich lles meddyliol.
Pori cyrsiau →
Adnoddau Hunangymorth
Adnoddau hunangymorth sydd wedi'u cymeradwyo'n broffesiynol i'ch helpu i wella'ch lles meddyliol.
Archwiliwch adnoddau →