Yn eich ardal
Isod ceir dolenni i wybodaeth a ffynonellau cymorth i’ch helpu i ofalu am eich lles. Maent yn wasanaethau a ddarperir ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Os hoffech wybodaeth am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal leol, dewiswch eich lleoliad i fynd i’r adran berthnasol ar y dudalen.
Angen cymorth brys nawr?
Is ydych chi’n teimlo bod angen cymorth brys arnoch nawr, defnyddiwch y cysylltiadau yn y ddolen isod.
Cyfleoedd lleol yn Blaenau Gwent
Blaenau Gwent Yn Hwn Gyda’n Gilydd
Gwefan sydd â mapiau sy’n rhoi gwybodaeth am yr holl ddigwyddiadau lleol ym Mlaenau Gwent yw ‘BG Yn Hwn Gyda’n Gilydd’.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am weithgareddau lleol, grwpiau, sut i gymryd rhan a gwybodaeth am wasanaethau cymorth lleol fel iechyd meddwl, cymorth tai a chymorth ariannol.
Datblygwyd yr adnodd hwn i helpu cymunedau ym Mlaenau Gwent i gymryd mwy o ran yn yr holl bethau gwych sy’n digwydd yn ein hardal leol.
Nid oes yn rhaid i chi wrando arnom ni’n unig, gallwch weld drosoch eich hun.

Cyfleoedd lleol yn Blaenau Gwent
Dewis Cymru yw’r lle i fynd os ydych eisiau gwybodaeth neu gyngor lles ar eich cyfer chi neu i rywun arall. Gallwch bori Dewis Cymru drwy ddewis yr hyn sy’n bwysig i chi a chwilio yn ôl cod post, neu gallwch ddefnyddio’r 5 Ffordd at Les i chwilio am adnoddau. Mae pob tudalen yn darparu dolen i’n cyfeiriadur adnoddau, lle byddwch yn dod o hyd i sefydliadau a gwasanaethau sy’n lleol i Blaenau Gwent a fydd efallai’n gallu helpu.

Mind Torfaen a Blaenau Gwent
Elusen iechyd meddwl leol yw Mind Torfaen a Blaenau Gwent. Mae’r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth iechyd meddwl i bobl sy’n byw ym Mlaenau Gwent. Mae hefyd yn cynnig y cwrs Monitro Gweithredol chwe wythnos am ddim sy’n helpu pobl i ddeall eu hiechyd meddwl a’u lles yn well.
GAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent) Blaenau Gwent
Mae GAVO yn cefnogi a chynghori sefydliadau, grwpiau cymunedol ac unigolion ar bob agwedd ar wirfoddoli ac yn darparu hyfforddiant a chyngor i wirfoddolwyr.
Verity Lewis
Health Social Care Well-being Partnership Officer
Ffoniwch: 07483 128051
E-bost: verity.lewis@gavo.org.uk

Cydlynwyr Lles Blaenau Gwent
Mae gan Gyngor Blaenau Gwent nifer o ‘Gydlynwyr Lles’ yn gweithio ledled y Fwrdeistref i ailgysylltu pobl yn ôl i’w cymunedau. Mae Cydlynwyr Lles hefyd yn gweithio gyda llawer o grwpiau a sefydliadau o fewn cymunedau i helpu pobl i ddod o hyd i weithgareddau a grwpiau a all fod o fudd i’w lles eu hunain.

Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent
Mae gwefan Cyngor Sir Blaenau Gwent yn cynnwys gwybodaeth am bethau y gallwch eu gwneud a mannau i ymweld â nhw yn yr ardal. Mae’n rhoi gwybodaeth am gyfleoedd i wella lles meddyliol: megis manylion am ganolfannau chwaraeon/hamdden lleol, parciau gwledig a gweithgareddau eraill lle gallwch fod yn fwy actif; mannau gwyrdd ac ardaloedd o ddiddordeb lleol megis safleoedd treftadaeth lle gallwch ymarfer bod yn fwy ystyriol a bod mewn cysylltiad â natur. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am eich llyfrgelloedd lleol lle gallwch ddod o hyd i lyfrau Darllen yn Well ar gyfer Iechyd Meddwl a dysgu mwy am sut i wella eich iechyd meddwl a’ch lles. Gweler y wefan am ragor o wybodaeth.
Cyfleoedd lleol yn Caerffili

Cyfleoedd lleol yn Caerffili
Dewis Cymru yw’r lle i fynd os ydych eisiau gwybodaeth neu gyngor lles ar eich cyfer chi neu i rywun arall. Gallwch bori Dewis Cymru drwy ddewis yr hyn sy’n bwysig i chi a chwilio yn ôl cod post, neu gallwch ddefnyddio’r 5 Ffordd at Les i chwilio am adnoddau. Mae pob tudalen yn darparu dolen i’n cyfeiriadur adnoddau, lle byddwch yn dod o hyd i sefydliadau a gwasanaethau sy’n lleol i Caerffili a fydd efallai’n gallu helpu.

Mind Bwrdeistref Caerffili
Elusen iechyd meddwl leol yw Mind Caerffili. Mae’r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth iechyd meddwl i bobl sy’n byw yng Nghaerffili Mlaenau Gwent. Mae hefyd yn cynnig y cwrs Monitro Gweithredol chwe wythnos am ddim sy’n helpu pobl i ddeall eu hiechyd meddwl a’u lles yn well.

Cwtsh Caerffili
Mae Cwtsh Caerffili yn darparu canllawiau wythnosol ar gyfer yr hyn sy’n digwydd i gefnogi a gwella iechyd a lles yn nhrefi Rhymni, Tredegar Newydd, Bargod a Rhisga ym Mwrdeistref Caerffili.
GAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent) Caerffili
Mae tîm Caerffili yn darparu cymorth a chyngor i sefydliadau gwirfoddol a chymunedol er mwyn helpu i gynyddu eu gwytnwch a datblygu trydydd sector ffyniannus. Mae’r fwrdeistref yn amrywiol ac mae’r wybodaeth yn amrywio’n eang ac yn cynnwys gwirfoddoli, datblygu, iechyd a gofal cymdeithasol ac iaith gynnar.
Laura Brosnan-James
Swyddog Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
Ffoniwch: 07375 917387
E-bost: laura.brosnan.james@gavo.org.uk
Gofalu am Gaerffili
Mae tîm Gofalu am Gaerffili yn darparu gwasanaeth i breswylwyr lleol sydd angen cymorth ar gyfer materion megis tlodi bwyd, dyled neu ôl-ddyled rhent, ynysigrwydd neu unigrwydd.
Cysylltwyr Cymunedol Caerffili
Mae Cysylltwyr Cymunedol Caerffili yn gweithio gydag oedolion ledled Caerffili. Eu nod yw ailgysylltu pobl â’u cymunedau drwy eu helpu i ddod o hyd i weithgareddau a grwpiau addas, cysylltu pobl sydd â diddordebau tebyg ac annog cyfranogiad o fewn eu cymuned. Fe gewch ragor o wybodaeth isod.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Caerphilly County Borough Council website contains information on things you can do and visit in Mae gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnwys gwybodaeth am bethau y gallwch eu gwneud a mannau i ymweld â nhw yn yr ardal. Mae’n rhoi gwybodaeth am gyfleoedd i wella lles meddyliol: megis manylion am ganolfannau chwaraeon/hamdden lleol, parciau gwledig a gweithgareddau eraill lle gallwch fod yn fwy actif; mannau gwyrdd ac ardaloedd o ddiddordeb lleol megis safleoedd treftadaeth lle gallwch ymarfer bod yn fwy ystyriol a bod mewn cysylltiad â natur. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am eich llyfrgelloedd lleol lle gallwch ddod o hyd i lyfrau Darllen yn Well ar gyfer Iechyd Meddwl a dysgu mwy am sut i wella eich iechyd meddwl a’ch lles. Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth. Gweler y wefan am ragor o wybodaeth am yr ardal gan gynnwys canolfannau chwaraeon a hamdden a mannau gwyrdd.
Cyfleoedd lleol yn Sir Fynwy

Cyfleoedd lleol yn Sir Fynwy
Dewis Cymru yw’r lle i fynd os ydych eisiau gwybodaeth neu gyngor lles ar eich cyfer chi neu i rywun arall. Gallwch bori Dewis Cymru drwy ddewis yr hyn sy’n bwysig i chi a chwilio yn ôl cod post, neu gallwch ddefnyddio’r 5 Ffordd at Les i chwilio am adnoddau. Mae pob tudalen yn darparu dolen i’n cyfeiriadur adnoddau, lle byddwch yn dod o hyd i sefydliadau a gwasanaethau sy’n lleol i Sir Fynwy a fydd efallai’n gallu helpu.

Mind Sir Fynwy
Elusen iechyd meddwl leol yw Mind Sir Fynwy. Mae’r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth iechyd meddwl i bobl sy’n byw yn Sir Fynwy. Mae hefyd yn cynnig y cwrs Monitro Gweithredol chwe wythnos am ddim sy’n helpu pobl i ddeall eu hiechyd meddwl a’u lles yn well.
GAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent) Sir Fynwy
Mae tîm GAVO Sir Fynwy yn darparu pob agwedd ar ddatblygiad Cymunedol, ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n nodi bylchau mewn darpariaethau a gwasanaethau. Mae’r tîm yn awyddus i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill y trydydd sector, sector cyhoeddus a’r sector preifat i gyflawni’r nodau hyn.
Miranda Thomason
Swyddog Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
Ffoniwch: 07375 913672
E-bost: miranda.thomason@gavo.org.uk

Cydlynwyr a Chynghorwyr Cysylltiadau Lles Sir Fynwy
Cydlynwyr Cysylltiadau Lles yw unigolion yn y gymuned sydd â’r nod o helpu pobl i wella lles ac osgoi argyfwng. Maent yn darparu pwynt cyswllt ar gyfer gwybodaeth am les, a chyngor ac yn helpu pobl i gael mynediad at weithgareddau, cyfleoedd a gwasanaethau lleol er mwyn meithrin gwytnwch a gwella ansawdd bywyd.
Cyswllt e-bost: wellbeing@monmouthshire.gov.uk
Mae gan bractisau meddygon teulu yn Sir Fynwy hefyd Gynghorwyr Cysylltiadau Lles yn gysylltiedig â’u meddygfeydd. Mae Cynghorwyr Cysylltiadau Lles ar gael i gwrdd ag unigolion sydd ag anghenion cymdeithasol yn hytrach na meddygol. Gallant ddarparu gwybodaeth a chyflwyniadau i ystod eang o gyfleoedd, gweithgareddau neu wasanaethau lleol a allai fod yn ddefnyddiol i wella lles.

Cyngor Sir Fynwy
Mae gwefan Cyngor Sir Fynwy yn cynnwys gwybodaeth am bethau y gallwch eu gwneud a mannau i ymweld â nhw yn yr ardal. Mae’n rhoi gwybodaeth am gyfleoedd i wella lles meddyliol: megis manylion am ganolfannau chwaraeon/hamdden lleol, parciau gwledig a gweithgareddau eraill lle gallwch fod yn fwy actif; mannau gwyrdd ac ardaloedd o ddiddordeb lleol megis safleoedd treftadaeth lle gallwch ymarfer bod yn fwy ystyriol a bod mewn cysylltiad â natur. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am eich llyfrgelloedd lleol lle gallwch ddod o hyd i lyfrau Darllen yn Well ar gyfer Iechyd Meddwl a dysgu mwy am sut i wella eich iechyd meddwl a’ch lles.
Cyfleoedd lleol yn Casnewydd

Mae Eich Casnewydd
Mae Eich Casnewydd yn fap ar-lein am ddim sy’n eich cysylltu â phopeth a all helpu eich lles meddyliol a chorfforol yn eich ardal leol

Cyfleoedd lleol yn Casnewydd
Dewis Cymru yw’r lle i fynd os ydych eisiau gwybodaeth neu gyngor lles ar eich cyfer chi neu i rywun arall. Gallwch bori Dewis Cymru drwy ddewis yr hyn sy’n bwysig i chi a chwilio yn ôl cod post, neu gallwch ddefnyddio’r 5 Ffordd at Les i chwilio am adnoddau. Mae pob tudalen yn darparu dolen i’n cyfeiriadur adnoddau, lle byddwch yn dod o hyd i sefydliadau a gwasanaethau sy’n lleol i Casnewydd a fydd efallai’n gallu helpu.

Mind Casnewydd
Elusen iechyd meddwl leol yw Mind Casnewydd. Mae’r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth iechyd meddwl i bobl sy’n byw yng Nghasnewydd. Mae hefyd yn cynnig y cwrs Monitro Gweithredol chwe wythnos am ddim sy’n helpu pobl i ddeall eu hiechyd meddwl a’u lles yn well.
GAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent) Casnewydd
Mae GAVO yn cefnogi grwpiau cymunedol a sefydliadau trydydd sector yng Nghasnewydd sy’n darparu gwasanaethau lles meddyliol a chorfforol hollbwysig i oedolion a phobl agored i niwed yn ein cymunedau amrywiol. Mae cydweithredu wrth wraidd yr hyn a wna, gan ddod â gwerth ychwanegol i gynllunio cymunedol, rhwydweithio ac ymgysylltu.
Susanne Maddax
Swyddog Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
Ffoniwch: 07949 086260
E-bost: susanne.maddax@gavo.org.uk

Cysylltwyr Cymunedol Casnewydd
Mae Cysylltwyr Cymunedol Casnewydd yn gweithio gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled ardal Casnewydd i ddarparu gwybodaeth a chyngor am gefnogaeth, eich helpu i ddod o hyd i weithgareddau yn eich ardal a’ch helpu i gwrdd â mwy o bobl yn eich cymuned.

Cyngor Dinas Casnewydd
Mae gwefan Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnwys gwybodaeth am bethau y gallwch eu gwneud a mannau i ymweld â nhw yn yr ardal. Mae’n rhoi gwybodaeth am gyfleoedd i wella lles meddyliol: megis manylion am ganolfannau chwaraeon/hamdden lleol, parciau gwledig a gweithgareddau eraill lle gallwch fod yn fwy actif; mannau gwyrdd ac ardaloedd o ddiddordeb lleol megis safleoedd treftadaeth lle gallwch ymarfer bod yn fwy ystyriol a bod mewn cysylltiad â natur. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am eich llyfrgelloedd lleol lle gallwch ddod o hyd i lyfrau Darllen yn Well ar gyfer Iechyd Meddwl a dysgu mwy am sut i wella eich iechyd meddwl a’ch lles.
Cyfleoedd lleol yn Torfaen

Cyfleoedd lleol yn Torfaen
Dewis Cymru yw’r lle i fynd os ydych eisiau gwybodaeth neu gyngor lles ar eich cyfer chi neu i rywun arall. Gallwch bori Dewis Cymru drwy ddewis yr hyn sy’n bwysig i chi a chwilio yn ôl cod post, neu gallwch ddefnyddio’r 5 Ffordd at Les i chwilio am adnoddau. Mae pob tudalen yn darparu dolen i’n cyfeiriadur adnoddau, lle byddwch yn dod o hyd i sefydliadau a gwasanaethau sy’n lleol i Torfaen a fydd efallai’n gallu helpu.

Mind Torfaen a Blaenau Gwent
Elusen iechyd meddwl leol yw Mind Torfaen a Blaenau Gwent. Mae’r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth iechyd meddwl i bobl sy’n byw yn Nhorfaen. Mae hefyd yn cynnig y cwrs Monitro Gweithredol chwe wythnos am ddim sy’n helpu pobl i ddeall eu hiechyd meddwl a’u lles yn well.

Cysylltu Torfaen
Platfform lle gallwch gwrdd â ffrindiau, gwneud cysylltiadau a rhannu gwybodaeth yw Cysylltu Torfaen. Gweler y wefan am ragor o wybodaeth.

Cynghrair Gwirfoddol Torfaen (TVA)
Mae TVA yn darparu cymorth a chyngor i wirfoddolwyr, y rheini sy’n dymuno dechrau gwirfoddoli a sefydliadau sy’n recriwtio gwirfoddolwyr. Mae TVA yn cefnogi sefydliadau yn y gymuned a datblygiad mentrau cymdeithasol yn Nhorfaen a’r cyffiniau.
Pat Powell
Cydlynydd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
01495 365619
07888 282254
pat@tvawales.org.uk

Cysylltwyr Cymunedol Torfaen
Mae Cysylltwyr Cymunedol Torfaen yn cefnogi ac yn galluogi pobl i ddod o hyd i weithgareddau, grwpiau a rhwydweithiau addas sy’n dod â phobl o’r un anian a allai fod â diddordebau tebyg ynghyd. Mae hyn yn helpu i annog cyfranogiad ac ymgysylltiad yn y gymuned ac yn meithrin hunanhyder, gwytnwch a lles.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Mae gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cynnwys gwybodaeth am bethau y gallwch eu gwneud a mannau i ymweld â nhw yn yr ardal. Mae’n rhoi gwybodaeth am gyfleoedd i wella lles meddyliol: megis manylion am ganolfannau chwaraeon/hamdden lleol, parciau gwledig a gweithgareddau eraill lle gallwch fod yn fwy actif; mannau gwyrdd ac ardaloedd o ddiddordeb lleol megis safleoedd treftadaeth lle gallwch ymarfer bod yn fwy ystyriol a bod mewn cysylltiad â natur. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am eich llyfrgelloedd lleol lle gallwch ddod o hyd i lyfrau Darllen yn Well ar gyfer Iechyd Meddwl a dysgu mwy am sut i wella eich iechyd meddwl a’ch lles. Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth.
Cyfleoedd lleol eraill
Gweithgareddau Cymunedol Clwb Rygbi’r Dreigiau
Mae Tîm Cymunedol Clwb Rygbi’r Dreigiau yn darparu ystod eang o weithgareddau lleol ar ei safle yng Nghasnewydd sy’n cynnwys:
- • Rygbi Cerdded
- Rygbi Cadair Olwyn
- Sesiynau ar gyfer ysgolion a gwyliau ysgol gan gynnwys gwersylloedd sgiliau rygbi
A llawer iawn mwy. Am ragor o wybodaeth, ewch i’w gwefan.
Chwiliwch amdanom yng nghartref y Dreigiau yn Rodney Parade
Rydym wedi partneru gyda Chlwb Rygbi’r Dreigiau felly cadwch lygad am ein baner a fideo yn Rodney Parade!
Infoengine
Cyfeiriadur o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol sy’n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth yng Nghymru yw Infoengine.
Gallwch ddod o hyd i wasanaethau lleol yn eich ardal drwy ddefnyddio’r bar chwilio ar y dde neu drwy fynd i wefan Infoengine gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Archwiliwch ragor o ffyrdd o ofalu am eich lles meddyliol
Llinellau Cymorth a Chefnogaeth
Gwasanaethau cymorth y gallwch eu cyrraedd dros y ffôn, neges destun, e-bost neu wefannau i helpu i'ch cadw'n ddiogel.
Dod o hyd i linellau cymorth →
Cyrsiau Lles Meddyliol
Cyrsiau manwl i'ch helpu i ddysgu sgiliau i reoli a gwella eich lles meddyliol.
Pori cyrsiau →
Adnoddau Hunangymorth
Adnoddau hunangymorth sydd wedi'u cymeradwyo'n broffesiynol i'ch helpu i wella'ch lles meddyliol.
Archwiliwch adnoddau →