Er na allwn ddatrys problemau bywyd, gallwn eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd gwell i ymdopi â hwy.
Ni fu hi erioed yn fwy pwysig i ofalu am eich lles meddyliol eich hun, a lles meddyliol eich anwyliaid. Mae’r pandemig COVID-19 wedi peri nifer o heriau a gofidiau. Bu’n rhaid i ni ddatblygu sgiliau newydd a ffyrdd newydd o ymdopi. Mae wedi gwneud i ni feddwl am ein dyfodol a beth sy’n bwysig i ni; ein perthynas ag eraill, a hefyd ein hiechyd corfforol a lles meddyliol. Pan fyddwn yn treulio amser i ofalu am ein hunan, rydym yn teimlo’n well. Rydym yn fwy abl i ymdopi â’r anawsterau y mae bywyd yn eu taflu atom ac yn fwy abl i ofalu am eraill.

Beth rydym yn ei ddarparu
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi datblygu’r wefan hon i hyrwyddo lles meddyliol pobl sy’n byw ac yn gweithio yng Ngwent.
Rydym wedi casglu ynghyd yr adnoddau hunangymorth am ddim gorau sydd ar gael a’u rhoi mewn un man. Yma fe ddowch o hyd i gyrsiau, apiau, fideos, adnoddau sain, llyfrau a gwefannau er mwyn cael rhagor o gefnogaeth. Mae’r holl adnoddau am ddim ac yn Gymraeg pan fyddant ar gael. Bydd yr adnoddau yn eich helpu i ddatblygu sgiliau newydd a fydd yn eich cefnogi pan fo bywyd yn anodd.
Rydym yn gobeithio y dewch o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano ac efallai canfod pethau newydd.

Yn Eich Ardal
Dod o hyd i gyfleoedd lleol yn eich ardal er mwyn gwella eich lles meddyliol.
Rhagor o wybodaeth →
Adnoddau Lles
Darganfod adnoddau i wella eich lles meddyliol.
Rhagor o wybodaeth →
Cyrsiau Lles am Ddim
Dysgu mwy am iechyd a lles meddyliol gyda chyrsiau ar-lein am ddim.
Rhagor o wybodaeth →
Adborth
Byddem yn hoffi cael eich barn am y wefan. Cysylltwch â ni os ydych yn teimlo ei bod yn ddefnyddiol neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau ynglŷn â sut y gellir ei gwella.
Rhannu
Os ydych yn teimlo bod y wefan neu unrhyw rai o’r adnoddau yn ddefnyddiol, rhannwch hwy gyda’ch teulu a ffrindiau.
Defnyddiwch y dolenni isod i’n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol.
Angen cymorth brys nawr?
Is ydych chi’n teimlo bod angen cymorth brys arnoch nawr, defnyddiwch y cysylltiadau yn y ddolen isod.